Teithiau Cerdded - click title for more info

1. Rhiwddolion, “Y Pentref Coll”, coedwig, lefel isel

2. Capel Garmon, “Beddi a golygfeydd”, lefel isel

3. Crimpiau and Crafnant, “O eglwys i eglwys”, lefel cymedrol

4. Ty Mawr, “Y Beibl Cymraeg”, lefel isel

5. Sarn Helen, “Cerdded gyda’r Rhufeiniaid” lefel cymedrol

6. Gwydir, “Coedwigoedd, chwareli a Chastell”, taith gerdded trwy’r                 goedwig, lefel isel
7. Llyn Y Foel, “Chwareli a Llynnoedd”, lefel cymedrol

8. Y Garn, “Breichiau’r Ogwen”, taith gerdded fyny’r mynydd

9. Moel Siabod, “Chwareli, Llynnoedd a Mynyddoedd”, taith gerdded i fyny’r mynydd

10. Tryfan, “Dwylo ar y Graig”, taith gerdded i fyny’r mynydd

11. Glyderau, “Taith at Everest!”, taith gerdded i fyny’r mynydd

12. Snowdon, “Croesi Gem Cymru”, taith gerdded i fyny’r mynydd

Daith 5. Sarn Helen, “Cerdded gyda’r Rhufeiniaid”


  1. Tirwedd - ffordd Rufeinig!

  2. Pellter y daith - 11 km / 6.9 milltir

  3. Lefel -     Cymedrol, 345m / 1140 troedfedd

  4. Hyd y daith  yn fras - 4.5  awr

  5. Cychwyn – Castell Dolwyddelan

  6. Gorffen - Betws-y-Coed


Crynodeb o’r Daith


Yn cychwyn o Gastell Dolwyddelan, sef y Castell Cymreig gwreiddiol, byddwn yn cerdded i bentref  Dolwyddelan gan ddilyn rhan o’r hen ffordd Rufeinig, “Sarn Helen”. Roedd y ffordd yma’n arwain o Gaerhun yn y gogledd i Drawsfynydd yn ne Eryri yn ystod y cyfnod Rhufeinig.  Yna byddwn yn cerdded  trwy goedwig a hen bentref Rhiwddolion, cyn symud ymlaen i lawr  Afon Llugwy ac yna dychwelyd i Fetws-y-coed ar hyd glan yr afon.

Croeso    Gŵyl    Teithiau Cerdded   Llety    Dillad/Offer    Lluniau    Cysylltu