Teithiau Cerdded - click title for more info

1. Rhiwddolion, “Y Pentref Coll”, coedwig, lefel isel

2. Capel Garmon, “Beddi a golygfeydd”, lefel isel

3. Crimpiau and Crafnant, “O eglwys i eglwys”, lefel cymedrol

4. Ty Mawr, “Y Beibl Cymraeg”, lefel isel

5. Sarn Helen, “Cerdded gyda’r Rhufeiniaid” lefel cymedrol

6. Gwydir, “Coedwigoedd, chwareli a Chastell”, taith gerdded trwy’r                 goedwig, lefel isel
7. Llyn Y Foel, “Chwareli a Llynnoedd”, lefel cymedrol

8. Y Garn, “Breichiau’r Ogwen”, taith gerdded fyny’r mynydd

9. Moel Siabod, “Chwareli, Llynnoedd a Mynyddoedd”, taith gerdded i fyny’r mynydd

10. Tryfan, “Dwylo ar y Graig”, taith gerdded i fyny’r mynydd

11. Glyderau, “Taith at Everest!”, taith gerdded i fyny’r mynydd

12. Snowdon, “Croesi Gem Cymru”, taith gerdded i fyny’r mynydd

Daith 1. Rhiwddolion


  1. Tirwedd - llwybrau trwy’r Goedwig ac ar hyd yr afon :

  2. Pellter y daith - 13km / 8.5 milltir :

  3. Lefel - Cymedrol, 500m / 1650 troedfedd ar i fyny :

  4. Hyd y daith  yn fras - 5.5 awr :

  5. Cychwyn – Betws-y-Coed :

  6. Gorffen - Betws-y-Coed


Crynodeb o’r Daith


Taith gerdded hyfryd sy’n arwain i fyny at goedwig Gwydir, i’r de o Fetws-y-coed. Mae’r daith yn ein harwain at Lyn Elsi gyda golygfeydd godidog tuag at y mynyddoedd, yn cynnwys Moel Siabod. Yna bydd y daith yn arwain at hen bentref chwarel Rhiwddolion â’i hanes, cyn symud ymlaen trwy goedwig yr arlunydd i  Dŷ Hyll gan ddilyn yr Afon Llugwy yn ôl i  Fetws-y-coed. Mae holl ddylanwadau’r ardal brydferth yma yn y daith gerdded hon a bydd y profiad yn siŵr o’ch gwneud chi eisiau ei cherdded eto!

Croeso    Gŵyl    Teithiau Cerdded   Llety    Dillad/Offer    Lluniau    Cysylltu