
Darperir ar gyfer pob lefel o ffitrwydd - o deithiau tair milltir ar gyfer cychwynwyr i dreciau drwy’r dydd ar gyfer y cerddwyr mynydd mwyaf profiadol.
Pencadlys yr Ŵyl
Lleolir y pencadlys ar Gae Llan yng nghanol y pentref, nepell o’r orsaf tren. Bydd cerddwyr yn ymgynnull yno i gofrestru a chyfarfod tywyswyr eu taith. Bydd pob tail yn cychwyn yn brydlon am 10:00 y bore o’r fan yma.
Archebu Teithiau
Mae’n hanfodol archebu pob taith; arweinir pob taith, ac mae’r nifer o lefydd yn gyfyngedig. Bydd teithiau dydd Sul yn cael eu hail-adrodd ddydd Sul. Ond I fod yn sicr o’ch lle, fe’ch cynghorir yn fawr i archebu.
Costau - teithiau bychain a chanolig yn £10 y person; teithiau hirion a theithiau mynydd yn £20 y person. Rhaid derbyn taliad llawn ymlaen llaw i werthuso archebion. Gellir gwneud sieciau yn daladwy I Betws-y-Coed Tourism Assoc a’u danfon I Mairlys, Betws-y-Coed, LL24 0AN. Ffoniwch 01690 710190 plîs.
Cyfrifoldeb y cyfranogydd yn unig yw canslad ganddynt. Ni ad-delir ffi archebu. Ni chaniateir cŵn ar unrhyw un o deithiau’r ŵyl.
Tîm yr Ŵyl
Bernard Owen, Trefnydd yr Ŵyl, gyda chymorth Cymdeithas Twristiaeth Betws y Coed a’r Ardal. Dyfeisiwyd a ffurfiwyd yr holl deithiau gan SerenVentures.
Gŵyl Gerdded 2010
Cynhelir ail Ŵyl Gerdded Eryri dros gyfnod o 5 diwrnod o Hydref 13-17 2010. Rhowch y manylion yn eich dyddiadur nawr! Yn ymuno â ni flwyddyn nesaf bydd cerddwyr o Ewrop gan ychwanegu blas Rhyngwladol i’r achlysur.